Ymweld

Lle gwych i weithio, meddwl, gorffwys a chwarae

Mae ein hystâd ar agor i bawb, bob dydd, felly dewch draw i chwilota

Mae’n costio £3 i barcio yma ddiwrnod cyfan, neu gall ymwelwyr rheolaidd ein cefnogi drwy dalu £25 fesul unigolyn neu £30 fesul teulu am aelodaeth, sy’n cynnwys man parcio i’r teulu am flwyddyn.

Mae’r Neuadd yn lleoliad gwych ar gyfer priodasau, cynadleddau, cyngherddau a digwyddiadau ac mae gennym raglen brysur o ddigwyddiadau i’r teulu ar yr Ystâd yn ogystal â digwyddiadau cerddoriaeth a diwylliannol yn y Neuadd, felly cadwch lygad allan am yr hyn sydd i ddod.

  • Croeso nôl i fyd natur

    Mae tiroedd 750-erw Gregynog ar agor i bawb, bob dydd. Mae’r rhan fwyaf o’r ystâd o fewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol sy’n un o ardaloedd pwysicaf Cymru o barcdir hynafol a chynefinoedd porfa pren.

    Mae gerddi Gregynog yn rhai rhestredig Gradd 1 ac mae Cadw’n eu disgrifio fel ‘Un o’r parciau a’r gerddi pwysicaf ym Mhowys, sy’n dyddio’n ôl i’r 1500au o leiaf.’

  • Dod yn Gyfaill

    Ers 2019 mae plasty Gregynog wedi cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth elusennol. Dod yn gartref
    mwyaf croesawgar Cymru ar gyfer natur a’r celfyddydau yw ein gweledigaeth. Mae gennym waith
    sylweddol o’n blaenau sef adfer ein gerddi rhestredig Gradd 1 ac atgyweirio’r neuadd Gradd 2 seren. Mae ein tiroedd ar agor i bawb, bob dydd, ac rydym yn cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau o Lwybrau Tylwyth Teg a Chalan Gaeaf i gyngherddau clasurol yn ein Hystafell Gerdd.

    Mae taer angen cefnogaeth arnom, yn wirfoddolwyr ac yn rhoddion. Mae pob dim yn gymorth, felly
    cysylltwch â ni, beth bynnag yw’ch cyfraniad i gefnogi Gregynog.