Gwybodaeth i ymwelwyr

Sut i ddod o hyd i ni

Mae lleoliad Gregynog ger pentref tawel Tregynon, 6 milltir i’r gogledd o’r Drenewydd ym Mhowys, yn golygu ei bod yn fan hawdd ei gyrraedd o fewn 3 awr o bob cwr o Gymru, ac o fewn 2 awr o Birmingham, Manceinion, Caer a Lerpwl, a dim ond 50 munud o Amwythig. Mae cysylltiad trên o reilffordd Birmingham – Aberystwyth, ac mae’r A483 cyfagos yn arwain at y rhwydwaith traffyrdd.

I ddod o hyd i ni â system llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post, sef SY16 3PL

O gyfeiriad Aberriw, fe allai hefyd eich arwain i droi i’r dde tuag at Brooks, trwy ddilyn ffordd gul un-trac. Anwybyddwch hon ac ewch ymlaen i Fetws Cedewain.

Sylwch: Mae Google Maps yn dangos cyfeiriadau a chyfarwyddiadau mewn nifer gyfyngedig o ieithoedd ac nid yw’r Gymraeg yn eu plith, ond fe allai hynny newid yn y dyfodol wrth i’r cyfleuster wella.

O’r Drenewydd

  • Wrth ddod i’r Drenewydd o’r De, arhoswch ar yr A489 nes i chi gyrraedd y goleuadau traffig ger McDonald.
  • Trowch i’r chwith wrth y goleuadau (gan gadw McDonald ar y chwith i chi).
  • Croeswch y bont dros yr afon gan ddilyn yr arwyddion i gyfeiriad yr ysbyty. Cymerwch y pumed troad ar y dde (gyferbyn â gwesty’r Bell). Dringwch y bryn allan o’r Drenewydd am ryw 6 milltir.
  • Mae arwyddion yn dangos y fynedfa i Gregynog ar y chwith, yn union cyn cyrraedd pentref Tregynon.

O’r Trallwng

  • Ewch i gyfeiriad y Drenewydd ar y A483 am ryw 4 milltir.
  • Trowch i’r dde tuag at Aberriw (B4390).
  • Ym mhentref Aberriw, cymerwch yr ail droad ar y chwith, gydag arwydd Betws Cedewain 5 milltir.
  • Wedi cyrraedd Betws, dilynwch y ffordd i’r dde, (gan gadw tafarn New Inn ar y dde i chi) gyda’r arwydd am Dregynon yn dangos 2.5 milltir.
  • Pan gyrhaeddwch y gyffordd-T nesaf, mae’r arwydd ar gyfer y fynedfa i Gregynog yn union gyferbyn â chi.

Rhagor o wybodaeth ddefnyddiol

Gwefru ceir trydan

Mae dau bwynt gwefru trydan yng Ngregynog – mae gwybodaeth a rhestr brisiau ar gael yn y caffi.

Tocyn parcio blynyddol

Mae ein tocyn parcio blynyddol yn rhoi cyfle i’n hymwelwyr rheolaidd gael mynediad i’r stad heb orfod talu bob tro, ac mae wedi’i gynnwys yn y tâl
aelodaeth.

Mae tocyn blynyddol yn fargen am £25 i unigolion a £30 i deulu.

Mae’r incwm ddaw o docynnau a thaliadau parcio yn ein helpu ni i gynnal a chadw’r gerddi ac yn caniatáu i bawb gael mynediad rhwng 8am a 8pm yn yr haf, neu o’r wawr tan y machlud yn y gaeaf.

I brynu tocyn parcio, llenwch y ffurflen ar ein tudalen Aelodaeth neu ewch drwy’r ddolen isod.

Dod yn aelod

  • Dod yn Gyfaill

    Ers 2019 mae plasty Gregynog wedi cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth elusennol. Dod yn gartref
    mwyaf croesawgar Cymru ar gyfer natur a’r celfyddydau yw ein gweledigaeth. Mae gennym waith
    sylweddol o’n blaenau sef adfer ein gerddi rhestredig Gradd 1 ac atgyweirio’r neuadd Gradd 2 seren. Mae ein tiroedd ar agor i bawb, bob dydd, ac rydym yn cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau o Lwybrau Tylwyth Teg a Chalan Gaeaf i gyngherddau clasurol yn ein Hystafell Gerdd.

    Mae taer angen cefnogaeth arnom, yn wirfoddolwyr ac yn rhoddion. Mae pob dim yn gymorth, felly
    cysylltwch â ni, beth bynnag yw’ch cyfraniad i gefnogi Gregynog.