Cymryd rhan

Etifeddiaeth a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol

Sut allwch chi helpu i gefnogi Gregynog yn y dyfodol?

Ers 2019 mae perchnogaeth Plasty ac Ystâd Gregynog wedi ei throsglwyddo i Ymddiriedolaeth Gregynog, elusen a sefydlwyd i helpu i ddiogelu dyfodol Gregynog.

Rydym yn gweithio’n galed i dalu costau dyddiol rhedeg y Plasty a’r ystâd – gyda llety ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau yn ogystal â gwyliau, cyngherddau a digwyddiadau, ein stad 750-erw a Caffi’r Cowrt hyfryd.

Ond mae llawer iawn o waith i’w wneud i atgyweirio’r tŷ a’r ystâd hanesyddol ac i adfer ein gerddi rhestredig Gradd 1.Mae angen i ni godi hyd at £5 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf i osod to newydd ac atgyweirio rhywfaint ar y difrod hirdymor i’n hadeiladau

Gallwch chi helpu trwy:-

  • gyflwyno rhodd (waeth pa mor fach) naill ai ar-lein neu yn ein blwch rhoddion yn y caffi.
  • gwirfoddoli i helpu yn ein gerddi neu fel stiward yn y tŷ ar gyfer digwyddiadau arbennig a diwrnodau agored.
  • trefnu eich priodas, cynhadledd neu ddigwyddiadau yma.
  • siarad â ni am gefnogi prosiect penodol yn y Plasty neu’r tiroedd.
  • siarad â ni am adael etifeddiaeth yn eich ewyllys (yn rydd o dreth Etifeddiant gan ein bod yn elusen)
  • ymuno â’n Cynllun Cyfeillion – neu dalu ein tâl parcio bychan a dod draw i fwynhau’r gerddi

Credwn fod gan Gregynog rôl hanfodol i’w chwarae – nid mewn hanes yn unig, ond wrth edrych tuag ag yfory hefyd: trwy gynnig rhyfeddod, diwylliant ac ysbrydoliaeth; trwy ein lles a’m hysbryd; trwy annog dysgu a thrwy rymuso ein heconomi wledig leol yn Sir Drefaldwyn.

Gyda’ch cefnogaeth chi, mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.
Mae cyrhaeddiad Gregynog yn bell ac yn eang, mae’n tanio syniadau a chynnydd i lawer iawn o’r bobl y mae’n eu cyffwrdd. Gyda’ch cymorth chi, gallwn ni ymestyn hyd yn oed ymhellach.

 


Carole-Anne Davies, Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Gregynog

Mae Gregynog yn golygu llawer o bethau i lawer o bobl. Mae ymdeimlad cryf o berchnogaeth ar Gregynog ymhlith y boblogaeth leol. Mae yna’r rheiny o’r byd academaidd, o fyfyrwyr i athrawon emeriti, sy’n trysori’r profiad o astudio ac addysgu yma ac yn aml yn dychwelyd o flwyddyn i flwyddyn. Hefyd, y casglwyr llyfrau sy’n hoff o Wasg Gregynog. Ac yna’r cerddorion sy’n ymlawenhau yn y cyfle i berfformio yng Ngregynog, a’r cynulleidfaoedd sydd wrth eu boddau’n gwrando arnynt.

Carole-Anne Davies, Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Gregynog. Darlun © Betina Skovbro

Yn anad dim, mae yna ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd amgylcheddol tiroedd stad hynafol fel y rhai yng Ngregynog. Cymerwn ein cyfrifoldebau yma o ddifrif calon. Mae pwysigrwydd tiroedd o’r fath a goroesiad y sgiliau traddodiadol a ddefnyddiwyd yn eu hwsmonaeth yn cael ei gydnabod fwyfwy fel rhywbeth sy’n hanfodol i gynnal a chadw amrywiaeth amgylcheddol yn wyneb cynefinoedd sy’n edwino. Fis Mawrth 2013, cyhoeddwyd bod stad 750-erw Gregynog bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol, nid yn unig i warchod y deri hynafol a’r cennau prin sy’n tyfu arnynt, ond hefyd i sicrhau bod y llu o gynefinoedd digyffwrdd eraill yn cael eu cadw.

Bydd creu Gregynog Trust yn agor llawer o gyfleoedd cyffrous newydd i adfywio’r Plasty a’r stad, llawer o ddatblygiadau newydd, a’r cyfan i’w harneisio er mwyn creu hunaniaeth gynhwysol y bydd ganddi ran hanfodol bwysig i’w chwarae yn nyfodol Cymru gynaliadwy.

  • Dod yn Gyfaill

    Ers 2019 mae plasty Gregynog wedi cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth elusennol. Dod yn gartref
    mwyaf croesawgar Cymru ar gyfer natur a’r celfyddydau yw ein gweledigaeth. Mae gennym waith
    sylweddol o’n blaenau sef adfer ein gerddi rhestredig Gradd 1 ac atgyweirio’r neuadd Gradd 2 seren. Mae ein tiroedd ar agor i bawb, bob dydd, ac rydym yn cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau o Lwybrau Tylwyth Teg a Chalan Gaeaf i gyngherddau clasurol yn ein Hystafell Gerdd.

    Mae taer angen cefnogaeth arnom, yn wirfoddolwyr ac yn rhoddion. Mae pob dim yn gymorth, felly
    cysylltwch â ni, beth bynnag yw’ch cyfraniad i gefnogi Gregynog.