Ynglŷn â

Mae Gregynog yn un o drysorau mwyaf annisgwyl Cymru, tŷ hanesyddol yng nghanol cefn gwlad Sir Drefaldwyn, sy’n enwog fel cyn-gartref y casglwyr celf a’r cymwynaswyr Gwendoline a Margaret Davies.

Roedd y chwiorydd Davies wedi ymrwymo i’r syniad o gynnydd: a’r natur flaengar honno yw sylfaen fyw Gregynog hyd heddiw.

Ym 1960 gadawyd y Neuadd gan Margaret Davies i Brifysgol Cymru ac am bron i 50 mlynedd roedd enw Gregynog yn rhan o chwedloniaeth myfyrwyr Cymru – roedd hanesion am y bar yn y seler a’r ystafelloedd ymolchi trydydd llawr yn enwog ledled Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Llanbedr Pont Steffan.  Mae atgofion am yr amseroedd a dreuliwyd yma yn dal i godi hiraeth ar lawer ohonom

Erbyn heddiw caiff Gregynog ei redeg gan Ymddiriedolaeth Elusennol, sy’n ymroddedig i sicrhau bod y lle hudol hwn yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth heddiw ac yfory.

Yng ngofal yr Ymddiriedolaeth, mae Gregynog yn parhau i fod yn ganolfan ar gyfer dysgu ac addysg, gan gynnal cynadleddau a digwyddiadau a dathlu natur a’r celfyddydau trwy ein rhaglen brysur o weithgareddau a’n rheolaeth o’r ystâd.  Mae gennym lawer iawn o waith i’w wneud, ond sbardunir ein gweledigaeth gan gariad angerddol at y lle hynod hwn … a’r awydd i’w weld yn ffynnu.

  • Trysor annisgwyl

    Mae Gregynog yn un o drysorau mwyaf annisgwyl Cymru, tŷ hanesyddol yng nghanol cefn gwlad Sir Drefaldwyn, sy’n enwog fel cyn-gartref y casglwyr celf a’r cymwynaswyr Gwendoline a Margaret Davies.

    Roedd y chwiorydd Davies wedi ymrwymo i’r syniad o gynnydd: a’r natur flaengar honno yw sylfaen fyw Gregynog hyd heddiw.

  • Dod yn Gyfaill

    Ers 2019 mae plasty Gregynog wedi cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth elusennol. Dod yn gartref
    mwyaf croesawgar Cymru ar gyfer natur a’r celfyddydau yw ein gweledigaeth. Mae gennym waith
    sylweddol o’n blaenau sef adfer ein gerddi rhestredig Gradd 1 ac atgyweirio’r neuadd Gradd 2 seren. Mae ein tiroedd ar agor i bawb, bob dydd, ac rydym yn cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau o Lwybrau Tylwyth Teg a Chalan Gaeaf i gyngherddau clasurol yn ein Hystafell Gerdd.

    Mae taer angen cefnogaeth arnom, yn wirfoddolwyr ac yn rhoddion. Mae pob dim yn gymorth, felly
    cysylltwch â ni, beth bynnag yw’ch cyfraniad i gefnogi Gregynog.