Gwarchodfa natur

Croeso nôl i fyd Natur

Mae tiroedd 750 erw Gregynog ar agor i bawb, bob dydd. Mae’r rhan fwyaf o’r ystâd o fewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol sy’n un o ardaloedd pwysicaf Cymru o barcdir hynafol a chynefinoedd porfa goediog. Mae ein Coedwig Fawr, y tu ôl i’r Neuadd, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn un o’r ychydig goedlannau deri a chennau hynafol sy’n weddill ac mae’n darparu cynefin hanfodol ar gyfer cennau o bwysigrwydd rhyngwladol yn ogystal â phryfed, bywyd gwyllt ac adar prin fel gwybedwyr brith a thelorion y coed.

© Bradley Carr

Mae milltiroedd o lwybrau ag arwyddion ymnadreddu drwy ein coetir, ac mae digon yma i bawb ei archwilio – o’r guddfan adar ar ben coedwig Garden House i bwll yr alaw ger y brif rodfa dan orchudd o alaw’r dŵr, sy’n gartref i fyrddiwn o weision y neidr amryliw.

Os dringwch yr allt o bwll yr alaw i’r Cwningar, efallai y cewch gipolwg ar ysgyfarnog yn y dolydd. Mae Gregynog hefyd yn gartref i chwe rhywogaeth o ystlumod ac mae’n darparu man bwydo pwysig ar gyfer yr ystlum pedol lleiaf.

Dyma wlad! Dyma heddwch! Dyma aer iachusol! Rwyf i’n ymdrochi yn yr ysbryd Cymreig!

— Y Prif Weinidog Stanley Baldwin yn gorffwys yng Ngregynog o bwysau ei swydd ym mis Awst 1936

  • Dod yn Gyfaill

    Ers 2019 mae plasty Gregynog wedi cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth elusennol. Dod yn gartref
    mwyaf croesawgar Cymru ar gyfer natur a’r celfyddydau yw ein gweledigaeth. Mae gennym waith
    sylweddol o’n blaenau sef adfer ein gerddi rhestredig Gradd 1 ac atgyweirio’r neuadd Gradd 2 seren. Mae ein tiroedd ar agor i bawb, bob dydd, ac rydym yn cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau o Lwybrau Tylwyth Teg a Chalan Gaeaf i gyngherddau clasurol yn ein Hystafell Gerdd.

    Mae taer angen cefnogaeth arnom, yn wirfoddolwyr ac yn rhoddion. Mae pob dim yn gymorth, felly
    cysylltwch â ni, beth bynnag yw’ch cyfraniad i gefnogi Gregynog.