Rhywle lle mae hud yn digwydd

Ystâd 750-erw ym mherfeddion Cymru yw Gregynog. Mae’n llawn hanes, diwylliant, natur - a straeon.

Rhaid i Gregynog fod yn brydferth, ond prydferthwch symlrwydd a defnyddioldeb

— Gwendoline Davies

Daw pobl yma am ychydig o heddwch, am ddadl fywiog, i brofi cerddoriaeth anhygoel - neu’n syml i gymdeithasu yn ein caffi.

P'un a ydych chi'n dod am briodas neu gynhadledd, cyngerdd neu dro trwy'r goedwig, mae Gregynog yn fan hudolus. Mae'n gwneud lles i'r enaid, ac yn llecyn sy'n tanio gwreichion ym mhob un sy'n ymweld ag ef.

Dewch yma i ddarganfod eich gwreichion chi.

  • Trysor annisgwyl

    Mae Gregynog yn un o drysorau mwyaf annisgwyl Cymru, tŷ hanesyddol yng nghanol cefn gwlad Sir Drefaldwyn, sy’n enwog fel cyn-gartref y casglwyr celf a’r cymwynaswyr Gwendoline a Margaret Davies.

    Roedd y chwiorydd Davies wedi ymrwymo i’r syniad o gynnydd: a’r natur flaengar honno yw sylfaen fyw Gregynog hyd heddiw.

Y diweddaraf o Instagram