Dewch i aros yng Ngregynog
Mae’r tŷ wedi croesawu gwesteion o fri, o gerddorion byd-enwog fel Elgar, Holst a Britten i’r awdur George Bernard Shaw a’r Prif Weinidog Stanley Baldwin. Mae Gregynog wrth ei bodd â phartïon – ac yn dod yn fyw pan fydd y lle yn llawn cerddoriaeth, pobl a sgyrsiau bywiog.
Ystafelloedd y Cowrt o £80
Mae ystafelloedd y Buarth i gyd yn rhai ensuite ac maent ar gael i westeion gwely a brecwast drwy gydol y flwyddyn am £95 i ddau berson a £80 i unigolion.
Ystafelloedd Treftadaeth o £85
Mae’r ystafelloedd gwely treftadaeth yng Ngregynog yn costio £140 y noson i ddau berson a £85 am wely sengl, gan gynnwys brecwast. Mae gennym ystafelloedd ar gyfer hyd at bedwar o bobl ar y llawr uchaf am £200 y noson (£50 y pen). Gallwn hefyd ddarparu prydau gyda’r nos ar gyfer grwpiau mwy.
P’un a ydych am gael seibiant o fywyd y ddinas, yng nghanol ein gwarchodfa natur 750 erw, neu os ydych am drefnu arhosiad yma ar gyfer dathliad neu achlysur arbennig, cysylltwch â ni.
I archebu lle, ffoniwch y Plasty ar 01686 650224 neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod.