Hanes

Tŷ llawn hanes, diwylliant a lletygarwch
  • Bu plasty ar y tir hwn ers y 12fed ganrif ac er bod y tŷ a saif heddiw tua 150 mlwydd oed, mae elfennau hŷn y tŷ wedi’u hymgorffori yn yr adeilad presennol.
  • Credir bod yr enw Gregynog yn deillio o naill ai ‘grug’ neu’r enw personol ‘Grugyn’, gydag ‘og’ yn derfyniad i ddynodi enw lle.
  • O’r 15g ymlaen Gregynog oedd plasty teulu’r Blayney (‘Blaenau’) hyd nes i Arthur Blayney farw yn 1795, yn hen lanc. – Hyd yn oed yr adeg honno, roedd y tŷ yn enwog am ei letygarwch ac yn ymddangosai’n rheolaidd ym marddoniaeth y cyfnod.
  • Yn y 19g roedd y tŷ yn perthyn i deulu Hanbury-Tracy, a ddaeth yn farwniaid Sudeley yn 1838. Yn y 1840au dymchwelodd Henry Hanbury-Tracy yr hen dŷ a’i ailgodi ar ei ffurf bresennol, gan ychwanegu’r ‘ffrâm bren’ ffug o goncrit yn ddiweddarach. Roedd yn arloeswr ym myd adeiladu o goncrit. (Ef a adeiladodd y ‘bythynnod concrit’, y ffermdai a’r ysgol yn Nhregynon).
  • Cadwyd y parlwr cerfiedig sef Ystafell Blayney, a oedd yn dyddio o 1636, pan ailgodwyd y tŷ.  Mae’r tarianau herodrol cerfiedig yn cynnwys un ag arni dair gwaywffon, arfbais honedig Caradog Fraichfras y dywedir iddo fod yn un o Farchogion y Ford Gron!
  • Ym mis Medi 1889 cynhaliodd teulu Sudeley briodas foethus yn y neuadd gyda the prynhawn i 2000 o bobl, mewn pabell 150 troedfedd o hyd. – Roedd y gerddi’n llawn torchau o flodau a baneri a gwahoddwyd pawb o’r stad.
  • Collodd y Sudeleys arian yn niwydiant gwlanen Y Drenewydd ac yn 1894 gwerthwyd ystâd Gregynog i’r Arglwydd Joicey a’i gadwodd tan 1914, pan chwalwyd yr ystâd (18,000 erw) a’i werthu i denantiaid y ffermydd a’r bythynnod yn bennaf.
  • Prynwyd y Plasty gan Gwendoline a Margaret Davies, wyresau cefnog David Davies o Landinam, un o ddynion cyfoethocaf Cymru yn y 19eg ganrif.
  • Trigai’r chwiorydd Davies yng Ngregynog o 1924, a’i throi’n ganolfan bwysig ar gyfer cerddoriaeth, y celfyddydau ac argraffu cain. Fe wnaethant ei haddurno gyda’u casgliad amhrisiadwy o baentiadau gan Renoir, Monet, Cezanne sawl un arall. Mae’r gweithiau hyn bellach i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ond mae llawer o luniau llai adnabyddus a rhai printiau a darnau o gerflunwaith cain wedi aros yng Ngregynog.
  • Yn y 1930au cynhaliwyd gwyliau cerddorol yng Ngregynog, gyda cherddorion enwog fel Syr Adrian Boult, Walford Davies a Gustav Holst. Ymhlith yr enwogion eraill roedd George Bernard Shaw a Joyce Grenfell.
  • Cynhelid cynadleddau yma hefyd, yn aml i drafod problemau economaidd a gwleidyddol Cymru yn sgil dirwasgiad y 1930au.
  • Dechreuodd Gwasg Gregynog ar ddechrau’r 1920au a daeth yn un o argraffwyr a chyhoeddwyr llyfrau cain mwyaf blaenllaw Prydain.
  • Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd Gregynog gan y Groes Goch fel cartref gwella.
  • Bu farw Gwen Davies ym 1951. Bu farw ei chwaer Margaret ym 1963, a gadawodd Gregynog i Brifysgol Cymru. Mae cyrsiau, cynadleddau a chyngherddau wedi cael eu cynnal yma ers 1964.

Gregynog fel y byddai teulu’r Blayneys yn gyfarwydd ag ef.

  • Dod yn Gyfaill

    Ers 2019 mae plasty Gregynog wedi cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth elusennol. Dod yn gartref
    mwyaf croesawgar Cymru ar gyfer natur a’r celfyddydau yw ein gweledigaeth. Mae gennym waith
    sylweddol o’n blaenau sef adfer ein gerddi rhestredig Gradd 1 ac atgyweirio’r neuadd Gradd 2 seren. Mae ein tiroedd ar agor i bawb, bob dydd, ac rydym yn cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau o Lwybrau Tylwyth Teg a Chalan Gaeaf i gyngherddau clasurol yn ein Hystafell Gerdd.

    Mae taer angen cefnogaeth arnom, yn wirfoddolwyr ac yn rhoddion. Mae pob dim yn gymorth, felly
    cysylltwch â ni, beth bynnag yw’ch cyfraniad i gefnogi Gregynog.