Roedd y chwiorydd Davies wedi ymrwymo i’r syniad o gynnydd: a’r natur flaengar honno yw sylfaen fyw Gregynog hyd heddiw.
Ym 1960 gadawyd y Neuadd gan Margaret Davies i Brifysgol Cymru ac am bron i 50 mlynedd roedd enw Gregynog yn rhan o chwedloniaeth myfyrwyr Cymru – roedd hanesion am y bar yn y seler a’r ystafelloedd ymolchi trydydd llawr yn enwog ledled Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Llanbedr Pont Steffan. Mae atgofion am yr amseroedd a dreuliwyd yma yn dal i godi hiraeth ar lawer ohonom
Erbyn heddiw caiff Gregynog ei redeg gan Ymddiriedolaeth Elusennol, sy’n ymroddedig i sicrhau bod y lle hudol hwn yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth heddiw ac yfory.
Yng ngofal yr Ymddiriedolaeth, mae Gregynog yn parhau i fod yn ganolfan ar gyfer dysgu ac addysg, gan gynnal cynadleddau a digwyddiadau a dathlu natur a’r celfyddydau trwy ein rhaglen brysur o weithgareddau a’n rheolaeth o’r ystâd. Mae gennym lawer iawn o waith i’w wneud, ond sbardunir ein gweledigaeth gan gariad angerddol at y lle hynod hwn … a’r awydd i’w weld yn ffynnu.