Cynadleddau a digwyddiadau

Gwaith, Gorffwys a Chwarae yng Ngregynog

P’un a ydych yn archebu brecwast busnes, gweithdy lles neu gynhadledd academaidd, gall Gregynog gynnig lleoliad gwych ac ynddo groeso cynnes.

Mae ein hystafelloedd llawr gwaelod hanesyddol yn darparu lle unigryw ar gyfer pob math o gyfarfodydd – ymhell o sŵn traffig a bywyd swyddfa, yng nghanol ein Gwarchodfa Natur Genedlaethol.

Ar gyfer cyfarfodydd llai, beth am archebu Llyfrgell Thomas Jones, gyda’i dodrefn pwrpasol a luniwyd yng ngweithdai Bryn Mawr ar gyfer y chwiorydd Davies, neu’r Uwch Ystafell Gyffredin, gyda’i soffas cyfforddus a’i awyrgylch ysbrydoledig a grëwyd gan y darluniau o’r radd flaenaf sy’n addurno’r muriau.

Mae ein dwy ystafell gyfarfod ar yr ail lawr yn cynnig mwy o le ar gyfer darlithoedd a seminarau, ac mae ein Hystafell Gerdd yn cynnig rhywle cyfforddus ar gyfer y digwyddiadau a’r cyfarfodydd mwyaf. Mae ynddi le i 180 eistedd yn gyfforddus, neu gallech ddewis trefniant byrddau gwledda â lle i hyd at 120.

Rydym bob amser yn hapus i ddarparu coffi pan fydd gwesteion yn cyrraedd, a chinio a the prynhawn i gynrychiolwyr undydd, neu i gynllunio ciniawau cynhadledd ar gyfer cyfarfodydd preswyl.

Cysylltu â ni

  • Dod yn Gyfaill

    Ers 2019 mae plasty Gregynog wedi cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth elusennol. Dod yn gartref
    mwyaf croesawgar Cymru ar gyfer natur a’r celfyddydau yw ein gweledigaeth. Mae gennym waith
    sylweddol o’n blaenau sef adfer ein gerddi rhestredig Gradd 1 ac atgyweirio’r neuadd Gradd 2 seren. Mae ein tiroedd ar agor i bawb, bob dydd, ac rydym yn cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau o Lwybrau Tylwyth Teg a Chalan Gaeaf i gyngherddau clasurol yn ein Hystafell Gerdd.

    Mae taer angen cefnogaeth arnom, yn wirfoddolwyr ac yn rhoddion. Mae pob dim yn gymorth, felly
    cysylltwch â ni, beth bynnag yw’ch cyfraniad i gefnogi Gregynog.