Sut allwch chi helpu i gefnogi Gregynog yn y dyfodol?
Ers 2019 mae perchnogaeth Plasty ac Ystâd Gregynog wedi ei throsglwyddo i Ymddiriedolaeth Gregynog, elusen a sefydlwyd i helpu i ddiogelu dyfodol Gregynog.
Rydym yn gweithio’n galed i dalu costau dyddiol rhedeg y Plasty a’r ystâd – gyda llety ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau yn ogystal â gwyliau, cyngherddau a digwyddiadau, ein stad 750-erw a Caffi’r Cowrt hyfryd.
Ond mae llawer iawn o waith i’w wneud i atgyweirio’r tŷ a’r ystâd hanesyddol ac i adfer ein gerddi rhestredig Gradd 1.Mae angen i ni godi hyd at £5 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf i osod to newydd ac atgyweirio rhywfaint ar y difrod hirdymor i’n hadeiladau
Gallwch chi helpu trwy:-
- gyflwyno rhodd (waeth pa mor fach) naill ai ar-lein neu yn ein blwch rhoddion yn y caffi.
- gwirfoddoli i helpu yn ein gerddi neu fel stiward yn y tŷ ar gyfer digwyddiadau arbennig a diwrnodau agored.
- trefnu eich priodas, cynhadledd neu ddigwyddiadau yma.
- siarad â ni am gefnogi prosiect penodol yn y Plasty neu’r tiroedd.
- siarad â ni am adael etifeddiaeth yn eich ewyllys (yn rydd o dreth Etifeddiant gan ein bod yn elusen)
- ymuno â’n Cynllun Cyfeillion – neu dalu ein tâl parcio bychan a dod draw i fwynhau’r gerddi
Credwn fod gan Gregynog rôl hanfodol i’w chwarae – nid mewn hanes yn unig, ond wrth edrych tuag ag yfory hefyd: trwy gynnig rhyfeddod, diwylliant ac ysbrydoliaeth; trwy ein lles a’m hysbryd; trwy annog dysgu a thrwy rymuso ein heconomi wledig leol yn Sir Drefaldwyn.
Gyda’ch cefnogaeth chi, mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd. Mae cyrhaeddiad Gregynog yn bell ac yn eang, mae’n tanio syniadau a chynnydd i lawer iawn o’r bobl y mae’n eu cyffwrdd. Gyda’ch cymorth chi, gallwn ni ymestyn hyd yn oed ymhellach.
Carole-Anne Davies, Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Gregynog
Mae Gregynog yn golygu llawer o bethau i lawer o bobl. Mae ymdeimlad cryf o berchnogaeth ar Gregynog ymhlith y boblogaeth leol. Mae yna’r rheiny o’r byd academaidd, o fyfyrwyr i athrawon emeriti, sy’n trysori’r profiad o astudio ac addysgu yma ac yn aml yn dychwelyd o flwyddyn i flwyddyn. Hefyd, y casglwyr llyfrau sy’n hoff o Wasg Gregynog. Ac yna’r cerddorion sy’n ymlawenhau yn y cyfle i berfformio yng Ngregynog, a’r cynulleidfaoedd sydd wrth eu boddau’n gwrando arnynt.
Yn anad dim, mae yna ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd amgylcheddol tiroedd stad hynafol fel y rhai yng Ngregynog. Cymerwn ein cyfrifoldebau yma o ddifrif calon. Mae pwysigrwydd tiroedd o’r fath a goroesiad y sgiliau traddodiadol a ddefnyddiwyd yn eu hwsmonaeth yn cael ei gydnabod fwyfwy fel rhywbeth sy’n hanfodol i gynnal a chadw amrywiaeth amgylcheddol yn wyneb cynefinoedd sy’n edwino. Fis Mawrth 2013, cyhoeddwyd bod stad 750-erw Gregynog bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol, nid yn unig i warchod y deri hynafol a’r cennau prin sy’n tyfu arnynt, ond hefyd i sicrhau bod y llu o gynefinoedd digyffwrdd eraill yn cael eu cadw.
Bydd creu Gregynog Trust yn agor llawer o gyfleoedd cyffrous newydd i adfywio’r Plasty a’r stad, llawer o ddatblygiadau newydd, a’r cyfan i’w harneisio er mwyn creu hunaniaeth gynhwysol y bydd ganddi ran hanfodol bwysig i’w chwarae yn nyfodol Cymru gynaliadwy.
Ein gweledigaeth
Bod yn ganolfan dysgu ac addysgu, gyda phwyslais ar y celfyddydau, ac ar yr un pryd, parchu hanes y plasty, ei drigolion, y tiroedd a’r amgylchedd, trwy gyrsiau, digwyddiadau, cynadleddau a chyfleoedd dysgu o bell i bobl o bob oed a gallu