Treftadaeth ddiwylliannol Gregynog yn ystod cyfnod teulu’r Davies
Roedd gan y teulu Davies arian a chydwybod gymdeithasol.. Daeth yr arian gan y David Davies cyntaf, a ddechreuodd ei yrfa fel llifiwr coed i lawr a daeth yn un o entrepreneuriaid Fictoraidd mawr Cymru, gan adeiladu rheilffyrdd, rhedeg pyllau glo, ac adeiladu Doc y Barri. Bu’n AS Ceredigion am nifer o flynyddoedd, a bu’n un o aelodau cyntaf Cyngor Sir Drefaldwyn. Ond roedd hefyd yn ddyngarwr – er enghraifft rhoddodd lawer iawn o arian i helpu sefydlu Prifysgol Cymru yn y 1870au. Bu farw yn 1890 gan adael ffortiwn fawr i’w deulu. Pan fu farw ei fab Edward yn gynnar, trosglwyddwyd y ffortiwn hwn i’w ŵyr a’i wyresau, David, Gwendoline a Margaret.
Roedd y tri Davies ifanc yn ymwybodol iawn eu bod yn ddyledus iawn i lafur y Cymry cyffredin, ac yn eithaf cynnar daethant i deimlo bod dyletswydd arnynt i ’roi rhywbeth yn ôl’. Erbyn diwedd y Rhyfel Mawr roedden nhw eisoes wedi rhoi symiau mawr o arian i ystod o achosion da – i Brifysgol Cymru (fe wnaethant noddi Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf erioed Aberystwyth, er enghraifft), i adeiladu ysbytai a sanatoria ar gyfer dioddefwyr y diciâu, i achub artistiaid o Wlad Belg rhag yr Almaenwyr oedd yn fygythiad cynyddol. Daeth David Davies yn AS Rhyddfrydol Sir Drefaldwyn, gwasanaethodd dan Lloyd George yn y rhyfel ac yn ddiweddarach cyfrannodd yn angerddol at y mudiad i greu Cynghrair y Cenhedloedd.
Os oedd David yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth yna roedd Gwen a Margaret – a fyddai wastad yn cael ei hadnabod fel Daisy – yn angerddol dros y celfyddydau. Hyd yn oed cyn y rhyfel roedden nhw wedi dechrau casglu paentiadau a gweithiau celf eraill, yn enwedig yr Argraffiadwyr a’r ôl-argraffiadwyr Ffrengig – er enghraifft Monet, Renoir, Cezanne, Pissarro, Sisley, Morisot – a rhaid i ni gofio bod hyn rhywbeth beiddgar iawn yn 1910! Dyn o’r enw Hugh Blaker, a oedd yn frawd i diwtor y chwiorydd, oedd eu cynghorydd . Roedd Gwen hefyd yn gerddor talentog, ac roedd cerddoriaeth yn bwysig iawn i’r ddwy chwaer.
Yn ystod y rhyfel roedd y chwiorydd wedi treulio amser ar y ffrynt yn rhedeg ffreutur i filwyr Ffrengig, ac felly wedi bod yn dystion eu hunain i ddioddefaint ofnadwy y milwyr. Fe gollon nhw hefyd ddau gefnder – oedd hefyd yn ffrindiau agos – y naill yn Gallipoli a’r llall ym Mhalesteina. Yn ystod y blynyddoedd hynny y daeth Gwen a Daisy, gyda chefnogaeth eu ffrind Dora Herbert-Jones, i deimlo bod yn rhaid iddynt wneud rhywbeth dros y milwyr Cymreig a oedd yn dychwelyd o’r ffosydd ar ôl y rhyfel – nid yn unig i ddarparu gwaith iddyn nhw ond hefyd i ehangu eu gorwelion a chyfoethogi eu bywydau trwy gynnig brofiad celfyddydol a cherddorol iddynt. Roedd hefyd canfyddiad o’r angen i wella safonau celf, dylunio a chrefftwaith yng Nghymru – roedd hi’n gyfnod y mudiad Celf a Chrefft wedi’r cyfan. Does dim dwywaith i’r chwiorydd Davies gael eu dylanwadu gan syniadau William Morris yr oedd adlais ei eiriau yng ngweledigaeth Gwendoline ei hun ar gyfer Gregynog.
Rhaid i Gregynog fod yn brydferth, ond prydferthwch symlrwydd a defnyddioldeb.
— Gwendoline Davies
Yn 1919 prynodd y chwiorydd Davies blasty Gregynog gyda bwriad annelwig o’i droi’n ganolfan gelf a chrefft i Gymru, gyda chrochenwaith, gwehyddu, gwneud dodrefn ac argraffu cain yn bosibiliadau. Ni wireddwyd yr un o’r dyheadau hyn, ac eithrio argraffu.
Gwasg Gregynog
Rhwng 1923 a 1940 cyhoeddodd Gwasg Gregynog nifer cyfyngedig o 42 o lyfrau cain, sy’n dal i gael eu hystyried yn rhai o’r goreuon o’u math o’r cyfnod. Ysgythrwr pren cain oedd Rheolwr cyntaf y Wasg, Robert Maynard, a daeth y llyfrau’n enwog am ansawdd eu darluniau ysgythriadau pren.
Yn ddiweddarach cynhyrchodd ysgythrwyr pren eithriadol eraill, fel Blair Hughes-Stanton, Gertrude Hermes ac Agnes Miller Parker waith gwych hefyd ar gyfer llyfrau Gwasg Gregynog – gallwch weld enghreifftiau o’r gwaith mewn fframiau y coridor sy’n arwain at yr ystafell fwyta y tu ôl i’r ystafell gerddoriaeth.
Yn y 1920au a’r 30au y gwelwyd oes aur ysgythru pren, a bu rhai o’r ymarferwyr gorau yn gweithio i’r Wasg. Roedd y rhwymwr, George Fisher, hefyd yn grefftwr heb ei ail.
Cerddoriaeth yng Ngregynog
Nid oedd y chwiorydd Davies wedi bod yng Ngregynog am hir cyn iddynt droi ystafell filiards yr Arglwydd Joicey yn ystafell gerddoriaeth, gosod organ Rothwell a adeiladwyd yn arbennig a ffurfio Côr Gregynog, yn bennaf o weithwyr yr ystâd a’u teuluoedd.
Felly daeth cerddoriaeth yn un arall o motiffau diffiniol Gregynog rhwng y rhyfeloedd. Eu dylanwad cerddorol mwyaf oedd dylanwad Henry Walford Davies, Athro Cerddoriaeth yn Aberystwyth a Chyfarwyddwr Cyngor Cerdd Cymru, a ariannwyd i raddau helaeth gan y chwiorydd Davies.
Rhwng 1932 a 1938 cynhaliwyd Gŵyl Cerddoriaeth a Barddoniaeth flynyddol o yma, dan arweiniad Walford Davies neu Syr Adrian Boult, gydag Elgar, Vaughan Williams a Gustav Holst ymhlith yr ymwelwyr – heb sôn am George Bernard Shaw a’i wraig Charlotte, Joyce Grenfell a llawer o enwau nodedig eraill.
Casgliad Davies – Celf yng Ngregynog
Rhaid bod mynychu un o’r gwyliau hyn yn cynnig profiad rhyfeddol o wrando ar gerddoriaeth, gyda phaentiadau’r Argraffiadwyr o’ch cwmpas. Daeth y chwiorydd â’u casgliad celf i Gregynog gyda nhw. Crogai ‘La Parisienne’ Renoir yn y neuadd flaen. Roedd alaw dŵr Monet a chasgliad o waith Cezanne yn crogi yn yr Ystafell Gerdd.
Cymeriadau enwog yng Ngregynog
Agwedd hynod arall ar Gregynog yn ystod oes y chwiorydd Davies oedd y cysylltiad â materion cyhoeddus. Cyfaill agosaf y chwiorydd – math o ‘ffigur tadol’ mewn gwirionedd – oedd Thomas Jones CH, gwas sifil a oedd wedi gwasanaethu dan Lloyd George a Mr Baldwin, ac a oedd yn ymgynghorydd agos i frawd y chwiorydd Davies, David a ddaeth yn farwn Davies 1af yn 1932.
Roedd Tom Jones y tu ôl i lawer o fentrau a oedd yn ymwneud ag addysg oedolion, a oedd yn bwnc llosg ganddo. Ef oedd sylfaenydd Coleg Harlech er enghraifft, ac yn ddiweddarach tua diwedd yr Ail Ryfel Byd bu’n rhan o lansiad y Pwyllgor Annog Cerddoriaeth a’r Celfyddydau, a fyddai’n arwain maes o law at sefydlu Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr.
Mae’n ymddangos mai’r cysylltiad hwn â Tom Jones, ynghyd â haelioni parhaus y teulu Davies tuag at lawer o wahanol sefydliadau elusennol, a arweiniodd at ddefnyddio Gregynog fel lleoliad ar gyfer rhaglen flynyddol brysur o gynadleddau gan gynnwys sefydliadau fel Undeb Cynghrair y Cenhedloedd – sef prif ddiddordeb yr Arglwydd Davies – Pwyllgor Addysgu Ymgynghorol Cyngor Cenedlaethol Cymru – Cynhadledd y Gwasanaeth Gwirfoddol Rhyngwladol – Clybiau Merched yng Nghymru – Cynhadledd Gwasanaethau Gwirfoddol Rhyngwladol – Cynhadledd Ardaloedd Trallodus De Cymru a Mynwy ar Adfywiad Cymdeithasol – mae’n amlwg bod cydwybod gymdeithasol y chwiorydd Davies yn parhau i fod yn bwysig iddynt.
Cawn yr argraff y byddai llawer o’r cynadleddau hynny, pe bydden nhw’n cael eu cynnal y dyddiau hyn, wedi’u lleoli yng Nghaerdydd. Ond yn ystod y 1920au a’r 30au doedd ’na ddim Swyddfa Gymreig, heb sôn am Senedd. Roedd hi’n 1955 cyn i Gaerdydd gael ei dynodi’n brifddinas Cymru. Yn Llundain yr ymdriniwyd â materion Cymreig yn bennaf – felly o edrych yn ôl, roedd y cyfarfodydd a’r cynadleddau a gynhaliwyd yng Ngregynog yn rhoi pwysigrwydd gwleidyddol i’r lleoliad yn ystod y cyfnod hwn, sef nodwedd na roddir sylw iddi’n aml.
Y chwiorydd yn mynd i’r Rhyfel
Yn ystod y rhyfel roedd y chwiorydd wedi treulio amser ar y rheng flaen yn rhedeg ffreutur i filwyr Ffrengig, ac felly wedi bod yn dystion eu hunain i ddioddefaint ofnadwy’r milwyr. Fe gollon nhw hefyd ddau gefnder – oedd hefyd yn ffrindiau agos – y naill yn Gallipoli a’r llall ym Mhalesteina.
Tynnwyd y llun hwn ar ôl y rhyfel, o un o’r grwpiau o blant o’r Iseldiroedd a arhosodd yng Ngregynog ym 1945-6, y ddwy chwaer â phlentyn yn ei chôl, ond maen nhw’n edrych fel hen wragedd yn y llun mewn gwirionedd, er mai yn eu chwedegau yn unig oedden nhw ar y pryd.
Mae rhai o’r plant hynny wedi ail-ymweld â Gregynog yn oedolion; mae gan bawb straeon i’w hadrodd am ryfeddod bwyd da, dillad gweddus a gwragedd caredig nad oedd ots ganddynt i’r plant redeg i fyny ac i lawr y coridor llawr cyntaf y tu allan i’w hystafelloedd gwely. Mae ganddyn nhw straeon difrifol hefyd i’w hadrodd o’r amodau y cawson nhw eu hachub ohonyn nhw – rhieni a neiniau a theidiau yn marw o newyn, er enghraifft.