Mae lleoliad Gregynog ger pentref tawel Tregynon, 6 milltir i’r gogledd o’r Drenewydd ym Mhowys, yn golygu ei bod yn fan hawdd ei gyrraedd o fewn 3 awr i bob cwr o Gymru, ac o fewn 2 awr i Birmingham, Manceinion, Caer a Lerpwl, a dim ond 50 munud o Amwythig. Mae cysylltiad trên o reilffordd Birmingham – Aberystwyth, ac mae’r A483 cyfagos yn arwain at y rhwydwaith traffyrdd.
I gael cyfarwyddiadau manylach, ewch i’n tudalen wybodaeth i ymwelwyr.