Lle i bawb ei fwynhau, gydol y flwyddyn
Mae gennym rwydwaith o lwybrau cerdded ag arwyddion lliw i’ch helpu chi i ddod o hyd i’ch ffordd drwy’r Stad. Gallwch weld y map rhyngweithiol trwy glicio ar y ddolen isod, lawrlwytho PDF o’n map cerdded, neu godi copi yng Nghaffi’r Cowrt.
Mae tiroedd Gregynog ar agor i bawb, bob dydd. Mae rhai teithiau cerdded gwastad o amgylch y Pwll Lili ac i lawr ein rhodfeydd i Fwlch y Ffridd. Mae Taith Gerdded y Goedwig Fawr a Thaith Daith Gerdded y Gwningar yn cynnig ychydig mwy o her – ond bydd y golygfeydd godidog ar draws cefn gwlad Sir Drefaldwyn yn wobr i chi wedi’r gwaith caled.
Bydd ein teithiau cerdded ag arwyddbyst yn eich tywys heibio i’n cuddfan adar yng Nghoedwig Garden House, ochr yn ochr â’r pwll lili, i Sied Beintio Margaret Davies – a adferwyd yn ddiweddar ar gyfer priodas yn y coetir. Mae ein gwenynfa fywiog yn y glyn wedi’i gynllunio i roi cyfle i ymwelwyr ganiatáu mynediad agos ond diogel at y gwenyn ac mae byrddau gwybodaeth yn esbonio eu cylch bywyd a’u pwysigrwydd hanfodol i’r blaned. Gallwch ddarganfod mwy am ein gwenyn a’n wenynfa hyfforddi yn MBKA – Home (montybees.org.uk).
Cynhelir ein llwybrau yn bennaf gan draed pobl a phawennau cŵn er mwyn lleihau ein heffaith amgylcheddol, ond cofiwch am eich esgidiau a’ch gwisg ar gyfer y tywydd! Nid oes tâl ychwanegol am gerdded yng Ngregynog ond cofiwch fod eich rhodd parcio yn ein helpu i gynnal yr ystâd.