y dewis
Gêm lawn dewisiadau yw bywyd.
Crëwyd a chyfarwyddwyd gan Gwyn Emberton.
Profwch y gêm sinematig lle mai chi sy’n dewis sut y bydd y stori’n mynd, yng nghanol Tregynon
Ymunwch â’n gwesteiwyr, cyflwynydd byw a’r llefarwr ar y sgrin, Natura. Gyda’i gilydd fe fyddant yn eich cludo o amgylchedd cyfarwydd Gregynog i ben clogwyni epig Ynys Môn. Yno, bydd pedwar person ifanc, pob un â’i stori i’w dweud, yn cyfarfod yng ngwaith brics hardd, adfeiliedig Porth Wen.
Mack eisiau dim byd mwy na bod yn fo ei hun. Wedi ei ddychryn gan brofiadau blaenorol pan ddatgelodd ei wir bersonoliaeth, mae’n teimlo ei fod yn cael ei gyfyngu gan gymdeithas a’r bobl o’i gwmpas.
Ez yn ddryslyd am sut i fod yn ddyn ifanc mewn cymdeithas sy’n ei orfodi i ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae’n ysu am gael ei hoffi ond mae’n gweld ei hun yn baglu trwy ei gysylltiadau â phobl.
Indy yn galw ei hun yn ffeminist gwael, ond nid hi sy’n ei gwneud hi felly. Mae’r syllu didrugaredd o’i chwmpas yn gwneud iddi stopio ei hun o hyd.
Ieua yn dioddef o orbryder eithafol a phroblemau iechyd meddwl eraill. Gall fod yn obsesiynol ac mae’n poeni bod hyn yn gwneud i bobl droi cefn arni. Ond allith hi ddim helpu’r peth.
A gyda chymorth y Cyflwynydd, chi sy’n cael dewis sut y bydd stori pob un ohonynt yn datblygu. Bydd y dewisiadau y byddwch chi’n eu gwneud ar y cyd yn synnu pob un ohonynt. Pwy ŵyr? Chithau hefyd efallai.
Ysbrydolwyd y profiad newydd hwn gan Jones y Ddawns, gan storïau pobl ifanc ar draws Cymru, yn archwilio beth mae’n ei olygu i fod yn ceisio deall nhw eu hunain yn y byd sydd ohoni heddiw. Mae’r ffilm yn bersonol, ac eto yn epig a sinematig, gan blethu Saesneg, Cymraeg a BSL. Gyda’i chymysgedd o ddawns a stori, y cyfan ar gefnlen naturiol eithriadol sy’n cwmpasu gorffennol diwydiannol, mae’n ddathliad o Gymru, dawns Cymru a gobaith pobl ifanc.
Dysgwch ragor am y ffilm yma: www.jonesthedance.com/ydewis
Ffilmiau byr a wnaed gan gwmni ifanc Jones y Ddawns
Mae pob perfformiad yn cynnwys ffilm fer a wnaed gan ddawnswyr ifanc o Gymru, wedi eu hysbrydoli gan y ffilm a’r cysyniad pwy sydd gan yr hawl i ddewis neu beidio.
Cynhyrchiad Jones y Ddawns gyda Theatr Clwyd, Pontio, Dawns i Bawb, Hwb Byddar Cymru
Wedi ei greu, ei gyfarwyddo a’i goreograffu gan Gwyn Emberton, ar y cyd â’r perfformwyr a’r gwneuthurwyr ffilm sy’n dod yn amlwg Aaron Lindblom, Kenny Ly a Victor Söderlund Lundvall. Yn cynnwys sgôr hyfryd gan Siôn Trefor, y cyfansoddwr ffilm, teledu a theatr enwog o Gymru, dyluniad sain gan Nick Davies, dillad a set wedi eu dylunio gan Lois Prys, a’r testun gan Iola Ynyr, Sarah Adedeji a Gwyn Emberton. Kama Roberts yw cynhyrchydd Y Dewis. Fe’i cefnogir gan gyllid gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Kulturrådet, Tŷ Cerdd, Abderrahim Crickmay Charitable Trust, Magic Little Grant via Local Giving.
Rhoddwyd caniatâd caredig i ffilmio yng Ngwaith Brics Porth Wen gan y perchenogion. Mae’n safle hen, bregus ac eithriadol o beryglus. Nid oes mynediad i’r cyhoedd. Rydym yn gofyn yn garedig i chi, ar ran y perchenogion, i beidio ag ymweld. Rydym yn meddwl y byddwch yn mwynhau cymaint ar ei harddwch adfeiliedig yn y ffilm.