Codi’r To!

Mae Gregynog yn enwog yn rhyngwladol fel cyn gartref y chwiorydd, y casglwyr celf o fri, a’r cymwynaswyr cyhoeddus, Gwendoline a Margaret Davies, y teimlwyd eu dylanwad cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ar hyd a lled y byd yn yr 20fed ganrif.

Roedd ‘Gwen a Daisy’ wedi ymrwymo i heddwch a chynnydd, gan rannu’r uchelgais y byddai pawb yn elwa o ymgysylltu a chael mynediad i ddiwylliant cyfoethog ac amgylchedd rhagorol Cymru. Mae’r uchelgais hwn yng nghuriad calon Gregynog o hyd.

Ers 2019 mae Plasty Gregynog a’i stad 750 erw wedi bod yn eiddo i Ymddiriedolaeth Gregynog, sy’n elusen gofrestredig. Saif y plasty rhestredig Gradd II* a’r gerddi rhestredig Gradd I mewn tirwedd helaeth, yng nghanol cefn gwlad canolbarth Cymru.  Mae’r Plasty a’r ystâd, gan gynnwys tir amaethyddol, coetir, Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yn cynnig lleoliad croesawgar i bawb aros, darganfod, profi a chael eu hysbrydoli. Mae’n fan lle mae hud yn digwydd a lle mae’r Ymddiriedolaeth yn anelu at greu cartref mwyaf croesawgar Cymru ar gyfer creadigrwydd, byd natur a’r celfyddydau.

Caiff ein hystâd 750 erw ei rheoli at ddibenion adfer byd natur a chynnal mynediad i’r cyhoedd. Mae’r Plasty’n darparu 58 ystafell wely ar gyfer cynadleddau addysgol undydd a phreswyl, ynghyd â mynediad i’n llyfrgell arbennig a’n harchifau. Diben yr Ymddiriedolaeth yw adleisio gweledigaeth y chwiorydd Davies, ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu’r lle hudolus hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae angen eich help arnom i wneud hynny, ac rydym yn gofyn i bawb sy’n caru Gregynog ein helpu i gyflawni ein nodau trwy Godi’r To yn gyntaf!

Cyn i’r Ymddiriedolaeth ddod yn berchen arno yn 2019, roedd dirywiad yn sgil diffyg atgyweirio a chynnal a chadw y lleoliad wedi gadael etifeddiaeth heriol, ac mae archwiliadau proffesiynol yn dangos bod angen adnewyddu’r to ar frys. Mae’r ased treftadaeth eithriadol hwn yn wynebu dirywiad pellach a bygythiad y bydd yn rhaid ei gau, gan rwystro gallu’r Ymddiriedolaeth i gynhyrchu incwm, ailwampio a sicrhau cynaliadwyedd. Ailwampio’r Neuadd a ‘Chodi’r To!’ yw’r cam cyntaf i sicrhau dyfodol y lle hudolus hwn a datgloi ei botensial ehangach.

Yn dilyn ein cais llwyddiannus i’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol am gymorth cam un, rydym wedi penodi cwmni Buttress Architects i’n cynorthwyo gyda’r prosiect. Rydym bellach yn gweithio gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri a chronfeydd Ymddiriedolaeth eraill i ddatblygu ein strategaeth codi arian er mwyn cyrraedd ein targed o £4.6m. Ein nod yw codi £25,000 trwy godi arian cyhoeddus a bydd pob ceiniog a roddir yn ein helpu i gyrraedd targed Codi’r To!

Rydym yn awyddus i adeiladu ar ein llwyddiant a denu cyllid y rhaglen Ffyniant Bro a’n Prosiect Croeso nôl i fyd natur – trwy grant y Gronfa Rhwydweithiau Natur – sy’n caniatáu i ni ehangu ein gwarchodfa natur i gynnig mynediad gwell iddi, yn ogystal â chynnal cyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim, o weithgareddau bywyd gwyllt gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn i gyngherddau bore Sadwrn gydag Ensemble Cymru – cadwch olwg am y blychau rhoddion yn y digwyddiadau hyn, yn y plasty ac yn ein caffi.

Mae hwn yn brosiect mawr ac uchelgeisiol iawn, sy’n debygol o bara tair i bedair blynedd, felly cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol, ymgofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio ar ein gwefan ac fe gewch y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd bob cam o’r ffordd.

Helpwch ni i gadw hud Gregynog yn fyw trwy Godi’r To! gyda ni. Galwch heibio, a gallwch ddod i ddarganfod rhagor a chwarae eich rhan i sicrhau dyfodol Gregynog, yng nghanol canolbarth Cymru.