Fel rhan o’n prosiect partneriaeth newydd, Croeso Nôl i Fyd Natur, byddwn yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn i wella ein hystâd hanesyddol ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.
Mae ein tiroedd 750 erw prydferth eisoes yn hafan o bwysigrwydd cenedlaethol i fywyd gwyllt. Mae mwyafrif safle Gregynog wedi’i leoli o fewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol – un o ardaloedd parcdir hanesyddol a phorfeydd coed pwysicaf Cymru. Yn ogystal, mae ei Goedwig Fawr, coetir hynafol llawn coed derw, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), sy’n llawn bywyd gwyllt, a llawer ohono’n brin, gan gynnwys cennau, adar megis Gwybedogion Brith a Thelorion y Coed a nifer o rywogaethau o ystlumod. Ac mae’r milltiroedd o lwybrau gydag arwyddion sy’n troelli drwy’r coetir, y dolydd blodau gwyllt a’r Pwll Lilis sy’n ferw o weision y neidr lliwgar, yn rhai o’r cyfleoedd cyffrous i ymwelwyr allu eu mwynhau a chysylltu gyda’r bywyd gwyllt cyfoethog hwn.
Byddwn yn gwella cynefinoedd bywyd gwyllt presennol, yn hybu bioamrywiaeth ac yn gwella profiad yr ymwelwyr o ran thema natur – i sicrhau bod bywyd gwyllt yn ffynnu yma a’i fod yn le y gall pobl gysylltu â byd natur a dysgu amdano…
Mae prosiect Croeso nôl i fyd natur wedi’i ariannu gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur, sef cronfa Llywodraeth Cymru a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru.
Bydd y prosiect dwy flynedd o hyd yn golygu bod ein dau sefydliad yn cydweithio i adeiladu ar y sylfeini cryf yma, gan wella cynefinoedd bywyd gwyllt presennol, hybu bioamrywiaeth a gwella’r profiad i ymwelwyr o ran thema natur – i sicrhau bod bywyd gwyllt yn ffynnu yma a’i fod yn le y gall pobl gysylltu â byd natur a dysgu amdano.
Er mwyn i hyn ddigwydd, bydd Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yn ein helpu i fapio a monitro cynefinoedd a rhywogaethau’r ystâd yn y lle cyntaf, gan gynnwys ystlumod, adar bridio, ffwng a phathewod, gan ategu at y gwaith a wnaed mewn ardaloedd penodol o’r ystâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) – i ddarganfod mwy am y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw yng Ngregynog. Bydd y data hwn yn darparu sylfaen ar gyfer gwybodaeth ddiddorol i helpu ymwelwyr i ddeall pa mor arbennig yw’r lle hwn o safbwynt bywyd gwyllt, a pham bod angen rheoli ein tiroedd gyda hynny mewn cof.
Hybu bioamrywiaeth
Bydd gwaith adfer ar draws yr ystâd yn cael ei ddylunio i gynyddu bioamrywiaeth, gan gynnwys adfer y Pwll Lilis a phlannu blodau gwyllt ar hyd y rhodfeydd, yn ogystal â chefnogi gwaith adfer parhaus i’r ardd furiog. Yn ogystal, bydd gosod blychau nythu wedi’u llunio’n arbennig ar gyfer y Gwybedogion Brith ac adar mudol eraill yr haf yn helpu i gefnogi poblogaethau adar prin, a bydd plannu mwy o flodau gwyllt a choed yn hybu bywyd pryfed, sef sylfaen ecosystem iach.
Gweithgareddau i’r teulu
Yn y cyfamser, bydd ein cynnig ymwelwyr yn cael ei wella ymhellach.
Byddwn hefyd yn croesawu 13 digwyddiad ar thema natur a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn – gan gynnwys teithiau cerdded i wylio ystlumod, adnabod ffwng, adeiladu den ac archwilio pyllau – cyfle perffaith ar gyfer ymgysylltu teuluoedd gyda natur ac ysbrydoli pobl ifanc i warchod eu hamgylchedd naturiol.
Mewn undod mae nerth
Gan gadw’r teulu wrth wraidd y prosiect hwn, byddwn yn sefydlu grŵp gwirfoddolwyr penodol i gynorthwyo gyda gwaith ymarferol i reoli cynefinoedd ac arolygu rhywogaethau ar yr ystâd, yn ogystal â chefnogi ein staff a’n gwirfoddolwyr presennol i ddatblygu eu sgiliau i barhau â’r gwaith monitro a rheoli at y dyfodol – un enghraifft yn unig o waddol y prosiect. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r prosiect hwn, e-bostiwch: ceri@montwt.co.uk.