Mae Gregynog wastad wedi bod yn fan lle mae hud yn digwydd. Mae natur, ein stad 750-erw a’n gwarchodfa natur yn amgylchynu’r tŷ hanesyddol.
Ers canrifoedd buom yn enwog am ein lletygarwch – ac rydym am fod yn sicr y gallwn gynnig eich diwrnod chi – eich ffordd chi.


Mae pedair o’n hystafelloedd treftadaeth wedi’u trwyddedu ar gyfer priodasau, felly p’un a fyddwch yn dewis yr Ystafell Gerdd wych gyda golygfeydd ar draws y gerddi rhestredig Gradd 1, ysblander yr ail ganrif ar bymtheg yn Ystafell Blayney neu leoliad mwy agos-atoch yr Ystafell Gyffredin Hŷn neu Lyfrgell Thomas Jones, gallwn beri i’n lleoedd weithio drosoch chi.
Dydyn ni ddim yn cynnig pecynnau priodas safonol – rydyn ni am fod yn siŵr bod eich diwrnod chi yn cyd-fynd yn llwyr â’ch dymuniadau, felly gallwn ni greu eich priodas o’ch cwmpas chi – pwy bynnag ydych chi a beth bynnag mae diwrnod eich breuddwydion yn ei gynnwys.
Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth arlwyo ar gyfer partïon priodas – gan gynnwys arlwyo anffurfiol Caffi’r Cowrt gyda themâu fel Noson Tapas Sbaeneg neu fwydlen Roegaidd.



Gallwn ddarparu llety ar gyfer eich gwesteion yn ein hystafelloedd gwely gan gynnwys 15 o ystafelloedd treftadaeth gwych yn ogystal â 12 o ystafelloedd Cowrt (tair ystafell wely hygyrch yn y tŷ) yn ogystal ag amrywiaeth o lofftydd yn lloriau uchaf y tŷ.



I drafod llogi’r plasty ar gyfer eich diwrnod arbennig, ffoniwch 01686 650224 neu llenwch y ffurflen isod.