Mae Caffi’r Cowrt ar agor drwy gydol y flwyddyn o 10-4 ac yn cynnig coffi a chacennau yn ogystal â chawl, brechdanau a danteithion eraill.
Mae croeso mawr i esgidiau mwdlyd a pawennau budr ar y tiroedd a hefyd yn ein caffi, felly beth am ddod i grwydro ac yna galw i mewn am ddiod a chacen ar gyfer eich pryd canol dydd.
Rydym hefyd yn cynnal nosweithiau bwyd a thema yn ein Cowrt ac yn y Neuadd felly cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n tudalennau digwyddiadau.