Mae gerddi plas Gregynog wedi’u rhestru yn rhai gradd 1 am eu harwyddocâd hanesyddol a’u cynllun. Mae’r tiroedd ar agor drwy gydol y flwyddyn ac mae 750 erw i’w harchwilio, gyda llwybrau ag arwyddion a theithiau cerdded trwy’r coetir.
Mae ein gerddi’n cynnig lle hyfryd i’w archwilio ym mhob tymor. Yn y gwanwyn, mae’r rhododendronau gyferbyn â’r Neuadd yn doreth o binc a phorffor, yn yr haf mae ein borderi’n gorlifo â lliw ac yn yr Hydref mae’r dail yn troi’n eiliwiau gogoneddus o winau ac aur wrth i’r dail grino.
Mae coed unigol ysblennydd a gwrych o lwyni’r ywen aur yn dwyn sylw at y lawntiau ysgubol o flaen y tŷ. Mae llawer o elfennau dylunio gwreiddiol o’r 18fed ganrif a grëwyd gan Syr William Emes, a oedd hefyd yn gyfrifol am dirlunio gerddi cestyll y Waun a Phowis, i’w gweld hyd heddiw.
Ychwanegodd y chwiorydd Davies, Margaret a Gwendoline, at ddyluniadau Emes, gyda’r bwriad o greu tirwedd odidog yr oedd gofyn am fyddin o fwy nag 20 o arddwyr i’w chadw ar ei gorau. Er bod hyn yn nodwedd anarferol yn y cyfnod, roeddent oeddent yn cyflogi Prif Arddwr benywaidd a llawer o fenywod i gynnal y gerddi, yr ardd furiog gynhyrchiol, ynghyd â’r tai gwydr Fictoraidd.
Gerddi Rhestredig Gogoneddus Gradd 1 Gregynog:
Un o’r parciau a’r gerddi pwysicaf ym Mhowys, sy’n dyddio’n ôl i’r 1500au o leiaf.
— CADW
Heddiw, rydym yn ymdopi ag ond un garddwr a llond llaw o wirfoddolwyr gwych – rydym bob amser yn croesawu unrhyw gynigion o ragor o gymorth. Yn ddiweddar, mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi ein cefnogi i ddechrau’r gwaith o adfer ein gardd furiog. Mae cryn siwrnai o’n blaenau ac rydym yn dechrau trwy gynnal y prennau afalau a gellyg presennol, plannu coed ffrwythau newydd ac atgyweirio’r waliau sydd wedi’u difrodi.
Rydym yn gweithio’n galed i adfer ein holl erddi i’w hysblander blaenorol, felly os gallwch helpu mewn unrhyw ffordd, neu os oes gennych atgofion o’r gerddi i’w rhannu â ni, yna cysylltwch â ni drwy ffonio’r Neuadd ar 01686 650224.