Mae tiroedd 750 erw Gregynog ar agor i bawb, bob dydd. Mae’r rhan fwyaf o’r ystâd o fewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol sy’n un o ardaloedd pwysicaf Cymru o barcdir hynafol a chynefinoedd porfa goediog. Mae ein Coedwig Fawr, y tu ôl i’r Neuadd, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn un o’r ychydig goedlannau deri a chennau hynafol sy’n weddill ac mae’n darparu cynefin hanfodol ar gyfer cennau o bwysigrwydd rhyngwladol yn ogystal â phryfed, bywyd gwyllt ac adar prin fel gwybedwyr brith a thelorion y coed.
Mae milltiroedd o lwybrau ag arwyddion ymnadreddu drwy ein coetir, ac mae digon yma i bawb ei archwilio – o’r guddfan adar ar ben coedwig Garden House i bwll yr alaw ger y brif rodfa dan orchudd o alaw’r dŵr, sy’n gartref i fyrddiwn o weision y neidr amryliw.
Os dringwch yr allt o bwll yr alaw i’r Cwningar, efallai y cewch gipolwg ar ysgyfarnog yn y dolydd. Mae Gregynog hefyd yn gartref i chwe rhywogaeth o ystlumod ac mae’n darparu man bwydo pwysig ar gyfer yr ystlum pedol lleiaf.
Dyma wlad! Dyma heddwch! Dyma aer iachusol! Rwyf i’n ymdrochi yn yr ysbryd Cymreig!
— Y Prif Weinidog Stanley Baldwin yn gorffwys yng Ngregynog o bwysau ei swydd ym mis Awst 1936