Sut i ddod o hyd i ni
Mae lleoliad Gregynog ger pentref tawel Tregynon, 6 milltir i’r gogledd o’r Drenewydd ym Mhowys, yn golygu ei bod yn fan hawdd ei gyrraedd o fewn 3 awr o bob cwr o Gymru, ac o fewn 2 awr o Birmingham, Manceinion, Caer a Lerpwl, a dim ond 50 munud o Amwythig. Mae cysylltiad trên o reilffordd Birmingham – Aberystwyth, ac mae’r A483 cyfagos yn arwain at y rhwydwaith traffyrdd.
I ddod o hyd i ni â system llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post, sef SY16 3PL
O gyfeiriad Aberriw, fe allai hefyd eich arwain i droi i’r dde tuag at Brooks, trwy ddilyn ffordd gul un-trac. Anwybyddwch hon ac ewch ymlaen i Fetws Cedewain.
Sylwch: Mae Google Maps yn dangos cyfeiriadau a chyfarwyddiadau mewn nifer gyfyngedig o ieithoedd ac nid yw’r Gymraeg yn eu plith, ond fe allai hynny newid yn y dyfodol wrth i’r cyfleuster wella.
O’r Drenewydd
- Wrth ddod i’r Drenewydd o’r De, arhoswch ar yr A489 nes i chi gyrraedd y goleuadau traffig ger McDonald.
- Trowch i’r chwith wrth y goleuadau (gan gadw McDonald ar y chwith i chi).
- Croeswch y bont dros yr afon gan ddilyn yr arwyddion i gyfeiriad yr ysbyty. Cymerwch y pumed troad ar y dde (gyferbyn â gwesty’r Bell). Dringwch y bryn allan o’r Drenewydd am ryw 6 milltir.
- Mae arwyddion yn dangos y fynedfa i Gregynog ar y chwith, yn union cyn cyrraedd pentref Tregynon.
O’r Trallwng
- Ewch i gyfeiriad y Drenewydd ar y A483 am ryw 4 milltir.
- Trowch i’r dde tuag at Aberriw (B4390).
- Ym mhentref Aberriw, cymerwch yr ail droad ar y chwith, gydag arwydd Betws Cedewain 5 milltir.
- Wedi cyrraedd Betws, dilynwch y ffordd i’r dde, (gan gadw tafarn New Inn ar y dde i chi) gyda’r arwydd am Dregynon yn dangos 2.5 milltir.
- Pan gyrhaeddwch y gyffordd-T nesaf, mae’r arwydd ar gyfer y fynedfa i Gregynog yn union gyferbyn â chi.
Rhagor o wybodaeth ddefnyddiol
Gwefru ceir trydan
Mae dau bwynt gwefru trydan yng Ngregynog – mae gwybodaeth a rhestr brisiau ar gael yn y caffi.
Tocyn parcio blynyddol
Mae ein tocyn parcio blynyddol yn rhoi cyfle i’n hymwelwyr rheolaidd gael mynediad i’r stad heb orfod talu bob tro, ac mae wedi’i gynnwys yn y tâl
aelodaeth.
Mae tocyn blynyddol yn fargen am £25 i unigolion a £30 i deulu.
Mae’r incwm ddaw o docynnau a thaliadau parcio yn ein helpu ni i gynnal a chadw’r gerddi ac yn caniatáu i bawb gael mynediad rhwng 8am a 8pm yn yr haf, neu o’r wawr tan y machlud yn y gaeaf.
I brynu tocyn parcio, llenwch y ffurflen ar ein tudalen Aelodaeth neu ewch drwy’r ddolen isod.