Casglodd Gwendoline Davies a Margaret Davies rhyngddynt un o gasgliadau celf gwychaf Prydain yn yr 20fed ganrif. Fe adawsant 260 o weithiau i Amgueddfa Cymru yn 1951 a 1963, gan drawsnewid ei chasgliad celf yn llwyr o ran cymeriad, ansawdd ac amrywiaeth.
Mae’r holl ddelweddau isod yn rhan o gasgliad y Chwiorydd Davies yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Paul Cézanne, Bywyd llonydd gyda thebot

Vincent van Gogh, Glaw – Auvers

Camille Pissarro, Pont Neuf, effaith eira, 2il gyfres

Jean-François Millet, Y teulu gwerinol

Gweithdy Sandro Botticelli, Y Forwyn a’r Plentyn gyda Phomgranad

Honoré Daumier, Don Quixote yn Darllen

Claude Monet, Eglwys Gadeiriol Rouen: Machlud Haul