Roedd Gwasg Gregynog ymhlith y mwyaf hirymaros o brosiectau’r chwiorydd Davies ym maes celfyddydau gweledigaethol
Fe’i sefydlwyd ym 1922 ac yn ystod y deunaw mlynedd nesaf enillodd y Wasg enw da iddi’i hun am gynhyrchu llyfrau argraffiad cyfyngedig o’r radd flaenaf ac ystyrid hi ochr yn ochr yn ochr â Gweisg Preifat blaenllaw’r cyfnod.
Roedd Gwasg Gregynog yn unigryw gan fod popeth wedi ei greu o dan yr un to – dylunio, teipograffeg, darlunio, argraffu a rhwymo. Roedd ei argraffu cain yn ddyledus iawn i sgil ddigyffelyb Herbert John Hodgson, yr argraffydd rhwng 1927 a 1936, a’i olynydd, Idris Jones. Bu’n ffodus hefyd wrth gyflogi un o fawrion rhwymo llyfrau yr ugeinfed ganrif, sef George Fisher, a ymunodd â’r staff ym 1925. Fisher oedd yn gyfrifol am gyflwyno rhwymiadau arbennig mewn lledr llawn ar gyfer rhan o bob argraffiad. Er mai arlunwyr y Wasg oedd wedi cynllunio llawer o’r rhain, Fisher aeth ati i wneud llawer o’r gwaith arnynt. Roedd y gwaith yn gelfydd dros ben ac fe’i nodwyd yn arbennig am ansawdd ei waith offeru. Gregynog yn unig ymhlith y gweisg preifat a roddodd sylw i ansawdd ei rwymiadau, a fyddai maes o law yn cynyddu gwerth y llyfrau ymhlith casglwyr.
O 1939, galwyd y staff gwrywaidd i wasanaeth milwrol, gan adael George Fisher yn y wasg ar ei ben ei hun tan 1945 i orffen y rhwymiadau arbennig. Yn 1940 gorfodwyd y wasg i gau, ar ôl argraffu 42 o lyfrau, tri ar gyfer cylchrediad preifat ac ymhell dros ddau gant o fanion na ddisgwylid iddynt fod yn destunau hirhoedlog. Am ddeunaw mlynedd roedd Gregynog wedi mwynhau enw da haeddiannol ym myd llyfrau cain, ond roedd cam cyntaf yr argraffu yng Ngregynog bellach ar ben.
Yn fwy diweddar comisiynwyd y wasg i gynhyrchu’r ddogfen sefydlu ar gyfer achlysur agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. I ddathlu’r digwyddiad, argraffwyd offeryn cyntaf Llywodraeth Cymru am fwy na 600 mlynedd, sef cyfrol gofrodd, yn argraffiad cyfyngedig o 250.
Yn 2002 cynhyrchwyd un o’r cyfrolau mwyaf llwyddiannus gan wasg Gregynog yn ystod y blynyddoedd diweddar. Yn hynod iawn, cafodd ‘Cutting Images’, sef cyfrol argraffiad cyfyngedig o fwy na 50 o dorluniau leino gan un o arlunwyr mwyaf Cymru, Syr Kyffin Williams, RA, ei gwerthu allan dim ond tair wythnos ar ôl ei lansio.
Hefyd yn y flwyddyn honno cynhyrchwyd cyfieithiad newydd o gerddi gan Johann Wolfgang von Goethe i goffáu 600 mlynedd ers geni Johannes Gutenberg, tad argraffu teip symudol. Ymhlith y llyfrau a grëwyd yn ddiweddar mae detholiad o deithiau Thomas Pennant o Ogledd Cymru, o’r enw ’Pennant and his Welsh Landscapes’. Cyhoeddiad arall a oedd yn dra llwyddiannus oedd y campwaith anghyffredin, ‘Of a Feather’, a ysgrifennwyd ac a ddarluniwyd gan Colin See-Paynton, gyda rhagair gan Syr David Attenborough. Cafodd ei gyhoeddi a’i lansio yn Llundain tua diwedd 2008.