- Bu plasty ar y tir hwn ers y 12fed ganrif ac er bod y tŷ a saif heddiw tua 150 mlwydd oed, mae elfennau hŷn y tŷ wedi’u hymgorffori yn yr adeilad presennol.
- Credir bod yr enw Gregynog yn deillio o naill ai ‘grug’ neu’r enw personol ‘Grugyn’, gydag ‘og’ yn derfyniad i ddynodi enw lle.
- O’r 15g ymlaen Gregynog oedd plasty teulu’r Blayney (‘Blaenau’) hyd nes i Arthur Blayney farw yn 1795, yn hen lanc. – Hyd yn oed yr adeg honno, roedd y tŷ yn enwog am ei letygarwch ac yn ymddangosai’n rheolaidd ym marddoniaeth y cyfnod.
- Yn y 19g roedd y tŷ yn perthyn i deulu Hanbury-Tracy, a ddaeth yn farwniaid Sudeley yn 1838. Yn y 1840au dymchwelodd Henry Hanbury-Tracy yr hen dŷ a’i ailgodi ar ei ffurf bresennol, gan ychwanegu’r ‘ffrâm bren’ ffug o goncrit yn ddiweddarach. Roedd yn arloeswr ym myd adeiladu o goncrit. (Ef a adeiladodd y ‘bythynnod concrit’, y ffermdai a’r ysgol yn Nhregynon).
- Cadwyd y parlwr cerfiedig sef Ystafell Blayney, a oedd yn dyddio o 1636, pan ailgodwyd y tŷ. Mae’r tarianau herodrol cerfiedig yn cynnwys un ag arni dair gwaywffon, arfbais honedig Caradog Fraichfras y dywedir iddo fod yn un o Farchogion y Ford Gron!
- Ym mis Medi 1889 cynhaliodd teulu Sudeley briodas foethus yn y neuadd gyda the prynhawn i 2000 o bobl, mewn pabell 150 troedfedd o hyd. – Roedd y gerddi’n llawn torchau o flodau a baneri a gwahoddwyd pawb o’r stad.
- Collodd y Sudeleys arian yn niwydiant gwlanen Y Drenewydd ac yn 1894 gwerthwyd ystâd Gregynog i’r Arglwydd Joicey a’i gadwodd tan 1914, pan chwalwyd yr ystâd (18,000 erw) a’i werthu i denantiaid y ffermydd a’r bythynnod yn bennaf.
- Prynwyd y Plasty gan Gwendoline a Margaret Davies, wyresau cefnog David Davies o Landinam, un o ddynion cyfoethocaf Cymru yn y 19eg ganrif.
- Trigai’r chwiorydd Davies yng Ngregynog o 1924, a’i throi’n ganolfan bwysig ar gyfer cerddoriaeth, y celfyddydau ac argraffu cain. Fe wnaethant ei haddurno gyda’u casgliad amhrisiadwy o baentiadau gan Renoir, Monet, Cezanne sawl un arall. Mae’r gweithiau hyn bellach i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ond mae llawer o luniau llai adnabyddus a rhai printiau a darnau o gerflunwaith cain wedi aros yng Ngregynog.
- Yn y 1930au cynhaliwyd gwyliau cerddorol yng Ngregynog, gyda cherddorion enwog fel Syr Adrian Boult, Walford Davies a Gustav Holst. Ymhlith yr enwogion eraill roedd George Bernard Shaw a Joyce Grenfell.
- Cynhelid cynadleddau yma hefyd, yn aml i drafod problemau economaidd a gwleidyddol Cymru yn sgil dirwasgiad y 1930au.
- Dechreuodd Gwasg Gregynog ar ddechrau’r 1920au a daeth yn un o argraffwyr a chyhoeddwyr llyfrau cain mwyaf blaenllaw Prydain.
- Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd Gregynog gan y Groes Goch fel cartref gwella.
- Bu farw Gwen Davies ym 1951. Bu farw ei chwaer Margaret ym 1963, a gadawodd Gregynog i Brifysgol Cymru. Mae cyrsiau, cynadleddau a chyngherddau wedi cael eu cynnal yma ers 1964.

Gregynog fel y byddai teulu’r Blayneys yn gyfarwydd ag ef.