Newyddion Brys – Gregynog wedi derbyn Grant o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Mae Ymddiriedolaeth Gregynog wedi derbyn Grant Datblygu gweddnewidiol o £866,591 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, i atgyweirio ac adnewyddu rhannau allweddol o Blas Gregynog, sydd wedi’i rhestru’n adeilad Gradd II.

Mae’r Dyfarniad i’r Ymddiriedolaeth yn garreg filltir allweddol wrth warchod a gwella cyn-gartref hanesyddol y dyngarwyr Gwendoline a Margaret Davies, gan ganiatáu iddynt rannu ei straeon a diogelu ei arwyddocâd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd y prosiect ‘Codi’r To’, y dyfarnwyd cyllid ar ei gyfer, yn cael ei ddefnyddio yng ngham cyntaf y datblygiad i helpu i gyflawni atgyweiriadau hanfodol a chyflwyno gweithgareddau newydd ac ychwanegol ym meysydd dysgu, y celfyddydau a’r amgylchedd.

Bydd cyllid y cyfnod datblygu yn cael ei ddefnyddio i baratoi dyluniadau ar gyfer ail-doi Plas Gregynog. Bydd y gwaith toi yn ymestyn ar draws doeau llechi serth y Plasty hanesyddol, toeau ffelt yr estyniad o’r 1970au a tho llechi lefel isel annecs y golchdy.

Byddwn hefyd yn treialu cyfres fywiog o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau a natur i anrhydeddu gwaddol y chwiorydd Davies a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Saif Plas Gregynog, cyn gartref y chwiorydd Davies, ar ystâd wledig 750 erw yng nghanol Cymru. Mae’n enwog am y croeso a estynnwyd i ymwelwyr drwy gydol ei hanes, mae’r plasty, ei erddi a’i goetir gwarchodedig helaeth – rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru – yn llawn hanes, diwylliant, natur a straeon.
Mae Gregynog yn rhywle lle mae hud yn digwydd ac mae’r Ymddiriedolaeth yn anelu at sicrhau ei fod unwaith eto’n dod yn gartref mwyaf croesawgar Cymru ar gyfer natur, dysgu a’r celfyddydau.
Dywedodd Carole-Anne Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gregynog “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y grant hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gan ddatgloi cam nesaf ein cynlluniau ar gyfer Gregynog a chaniatáu inni wneud cymaint mwy i’n hymwelwyr a’r gymuned ehangach. Rydym am rannu Gregynog a dod â’i straeon anhygoel yn fyw. Mae treulio amser yma, yn dysgu, yn chwarae, yn mwynhau cerddoriaeth a chreadigrwydd mewn tirwedd mor eithriadol, yn brofiad hudolus. Rydym am adeiladu ar hynny a gallu denu cymaint mwy o bobl i fwynhau Gregynog a chael eu cyfoethogi a’u dyrchafu gan bopeth sydd ganddo i’w gynnig.
Rydym hefyd wrth ein bodd yn cael cefnogaeth Ymddiriedolaeth y Pererin, Cronfa’rDreftadaeth Bensaernïol a Sefydliad y Tai Hanesyddol sydd fel ei gilydd wedi darparu cyllid cyfatebol i’n helpu i gyflymu’r cam datblygu. Rydym yn llawn cyffro o ddeall ein bod yn gallu symud ymlaen.”
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol –
“Rydym yn falch cefnogi Ymddiriedolaeth Gregynog yn y cam datblygu pwysig hwn. Bydd y grant hwn yn helpu i lunio cynlluniau manwl ar gyfer gwarchod PlasGregynog a chyfoethogi ymgysylltiad y cyhoedd ac rydym yn llawn cyffro gallucefnogi’r ymddiriedolaeth drwy’r cam hwn. Edrychwn ymlaen at weld y cais y rownd cyflawni llawn maes o law.”

Nodiadau i Olygyddion – Ynglŷn â Gregynog

Mae Plas Gregynog yn adeilad Rhestredig Gradd 2*, a bu wrth wraidd hanes diwylliannol a phensaernïol Cymru ers canrifoedd. Saif mewn gerddi Rhestredig Gradd 1 yng nghanol ystâd 750 erw. Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol o bwys rhyngwladol, tirwedd a choetir sy’n ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru yn amgylchynu’r Plasty a’i diroedd.

Mae Ymddiriedolaeth Gregynog, sy’n Elusen gofrestredig, yn berchen ar Gregynog ac yn ei reoli. Ei phwrpas cyhoeddus yw:

• Gwarchod, datblygu, cynnal a gwella amgylchedd naturiol a hanesyddol PlasGregynog ac Ystâd Gregynog
• Hyrwyddo’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth
• Hyrwyddo addysg
• Hyrwyddo diogelu a gwella’r amgylchedd
• Cyfrannu at wella amodau byw pobl yng Nghymru a thu hwnt trwy ddarparu cyfleusterau sy’n fuddiol i les cymdeithasol ar gyfer adloniant a gweithgareddauamser hamdden.

Ynglŷn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

*Caiff ceisiadau grant dros £250,000 eu hasesu mewn dwy rownd. Yn wreiddiol, dyfarnwyd cyllid datblygu rownd un o £866,591 i brosiect “Codi’r To” gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gan ganiatáu iddo symud ymlaen â’i gynlluniau. Yna bydd y Gronfa Dreftadaeth yn ystyried cynigion manwl yn yr ail rownd, lle gwneir penderfyniad terfynol ar y dyfarniad cyllid llawn o £4,100,729.

Ein gweledigaeth yw annog gwerthfawrogiad o dreftadaeth, gofalu amdani a’i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol. Fel ariannwr mwyaf treftadaeth y DU, dyna pam rydym wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth, fel y nodir yn ein cynllun strategol, Heritage 2033. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Credwn yng ngrym treftadaeth i danio’r dychymyg, i gynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i feithrin balchder mewn lle a chysylltiad â’r gorffennol. Dros y 10 mlynedd nesaf, ein nod yw buddsoddi £3.6 biliwn a godir ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i wneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.

Am ragor o wybodaeth gweler www.heritagefund.org.uk Dilynwch @HeritageFundUK ar Twitter/X, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #NationalLottery #HeritageFund.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Enw Cyswllt: Ashley Offa (Uwch Reolwr Buddsoddi)

E-bost: ashley.offa@heritagefund.org.uk

Gregynog ​​​

Enw Cyswllt:  Amanda Pryce (Prif Swyddog Gweithredu)

E-bost: amanda.pryce@gregynog.org

  • Dod yn Gyfaill

    Ers 2019 mae plasty Gregynog wedi cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth elusennol. Dod yn gartref
    mwyaf croesawgar Cymru ar gyfer natur a’r celfyddydau yw ein gweledigaeth. Mae gennym waith
    sylweddol o’n blaenau sef adfer ein gerddi rhestredig Gradd 1 ac atgyweirio’r neuadd Gradd 2 seren. Mae ein tiroedd ar agor i bawb, bob dydd, ac rydym yn cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau o Lwybrau Tylwyth Teg a Chalan Gaeaf i gyngherddau clasurol yn ein Hystafell Gerdd.

    Mae taer angen cefnogaeth arnom, yn wirfoddolwyr ac yn rhoddion. Mae pob dim yn gymorth, felly
    cysylltwch â ni, beth bynnag yw’ch cyfraniad i gefnogi Gregynog.