Prif Weinidog Prydain yng Ngregynog
Yn 1936 roedd Prif Weinidog Prydain Fawr, Stanley Baldwin, yn teimlo pwysau digwyddiadau gartref a thramor. Trallod cymdeithasol a diwydiannol parhaus yn Ne Cymru a rhannau eraill o’r wlad, y cynnydd mewn cyfundrefnau gwleidyddol newydd yn yr Almaen a’r Eidal, y rhyfel cartref yn Sbaen, cynnwrf cynyddol ym Mhalesteina: roedd yr holl faterion hyn yn cadw Mr Baldwin yn effro’r nos, ac ar ben hynny, roedd y Brenin newydd, Edward VIII, mewn cariad â menyw briod Americanaidd ac yn gwrthod rhoi’r gorau iddi.
Thomas Jones (a adwaenid bob amser fel T.J.), ffrind agos, cynghorydd a hyd yn oed yn ‘ffigur tadol’ i Gwendoline a Margaret Davies o Gregynog, oedd Ysgrifennydd Cabinet Baldwin yn y 1920au, ac arhosodd yn ffrind agos iddo. Ar 24 Gorffennaf 1936 cofnododd T.J. yn ei ddyddiadur fod
Ysgrifenyddion Downing Street yn pryderu am gyflwr iechyd Baldwin. Rydym yn cynllwynio gyda Dawson [Arglwydd Dawson o Penn, ’Meddyg Sefydlog y Brenin’] i’w anfon i ffwrdd ar wyliau. Rwy’n awgrymu Gregynog am y mis cyntaf … Dawson yn gweld Baldwin yn Chequers ac mae’n adfywio’r syniad o fynd i Sir Drefaldwyn ac yn chwilota am fap o ganolbarth Cymru …
Aeth y cynllun yn ei flaen, ac ar 7 Awst ysgrifennodd T.J:
Baldwin, yr Arglwyddes Baldwin a’r forwyn yn cyrraedd Gregynog mewn car o Chequers trwy Cirencester a Tewkesbury, a rwy’n eu cyflwyno i’r chwiorydd Davies. I ffwrdd â ni i Froneirion gan eu gadael yng ngofal Anderson, y bwtler, a Mrs. Herbert Jones. Rwyf wedi trefnu i Geoffrey Fry ddarparu cynnwys seler.
Mae’r nodyn olaf hwn yn ein hatgoffa bod y Chwiorydd yn llwyr-ymwrthod ag alcohol, ac na chafodd cwrw, gwin na’r ddiod gadarn erioed eu gweini yng Ngregynog pan fyddent yn preswylio yno. Honnir bob amser bod T.J. wedi gofyn i Geoffrey Fry, a oedd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Harrods ddarparu diodydd ar ran y Prif Weinidog ‘ar sail gwerthu neu ddychwelyd’. Mae’n amlwg o’r nodyn uchod i’r chwiorydd Davies symud i Broneirion, cartref eu llysfam, dros gyfnod y gwyliau, er mwyn gadael y teulu Baldwin i fwynhau llonyddwch Gregynog.
Cafodd Baldwin wyliau digyffro yng Ngregynog, er gwaethaf ymdrechion dirprwyaeth o Dde Cymru i ddod ato i wrthdystio yn erbyn Prydain, yr Almaen ac Eidal yn cyflenwi awyrennau ac arfau rhyfel i Sbaen Ffasgaidd. (Gweler y Manchester Guardian, 17 Awst 1936). Plannodd goeden ar dir Gregynog, coeden nad ydym, yn anffodus, erioed wedi gallu ei hadnabod, os yn wir y goroesodd o gwbl.
Ar 13 Awst ysgrifennodd Baldwin at T.J. o Gregynog:
Dyma wlad! Dyma heddwch! Dyma aer iachusol! Rwyf i’n ymdrochi yn yr ysbryd Cymreig os na wnaf i araith hyfryd amdanynt ryw ddydd, fe fwytâf fy het … Rwy’n dawel hapus ac yn poeni dim ond yn achlysurol …
Ymwelodd â ffrindiau lleol a threuliodd amser yng Ngwasg Gregynog.
Dywedais wrth y rhwymwr [George Fisher], Hoffwn pe gallem newid lle ond roedd yn ymddangos yn fodlon ar ei alwedigaeth hyfryd ei hun.
Aeth ymlaen:
Rwy’n credu bod Mr Anderson yn hoffi tywallt gwin: mae’n cofleidio ei boteli ac yn cynnig y gwin i mi yn ddiwyd. Rwy’n ei chael yn anodd cael unrhyw ddŵr ganddo, ond rwyf o’r diwedd wedi gallu ei annog i gadw jwg o ddŵr a gwydrau ar dap yn un o’r ystafelloedd i lawr y grisiau.
Does dim cofnod o faint o gynnwys ’seler’ Geoffrey Fry’ a ddychwelwyd i Harrods o Gregynog ar ôl ymweliad y Prif Weinidog.
O fewn wythnosau roedd T.J. ei hun yn gorffwys yn ei wely mewn sanatoriwm yn yr Alpau, ond erbyn diwedd mis Awst bu’n gwmni i gyn-gydweithiwr heriol arall, sef David Lloyd George, ar ymweliad â’r Almaen i gwrdd â Herr Hitler … Ond stori arall yw honno. Ni chyfarfu â Stanley Baldwin eto tan 17 Medi, pan ddisgrifiodd Baldwin ei amser yng Ngregynog fel “gwyliau mwyaf heddychlon fy mywyd.” Cyfaddefodd ei fod yn llawer gwell; Roedd Gregynog wedi bod yn ddechrau perffaith “Nawr rwy’n gweld y byddaf wrthi’n ysgwyddo pethau eto yn fuan.”
Ymysg y “pethau” y byddai Mr Baldwin yn eu hysgwyddo cyn hir oedd Ymddiorseddiad Brenin Edward y VIII. Ymddeolodd Baldwin fel Prif Weinidog y flwyddyn ganlynol, a chafodd ei olynu gan Neville Chamberlain. Bu farw yn 1947.
Yn ddiweddarach yn y 1930au, roedd Loyd Haberly, y bardd Americanaidd a oedd yn Rheolwr Gwasg Gregynog am gyfnod byr, yn cofio ‘Mr Anderson’, y bwtler’:
Roedd deuddeg neu bedair ar ddeg o forwynion mewn gwisgoedd o wlanen goch, ac Anderson, y bwtler, hefyd, dyn hirdrwyn ar ei ben ei hun gyda sbectol ag ymylon corn, yn bresennol ar y bwrdd uchaf. Byddai bob amser yn taro bys ei droed ar rywbeth, ac felly byddai’n dod i mewn ag ystum plygu ymlaen. Roedd wastad yn adennill ei gydbwysedd cyn iddo ollwng yr hambwrdd.